Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc o’r enw Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

 

Mehefin 2012

 

 

Trwy Llwybrau Dysgu 14-19 mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio trawsnewid y ddarpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr yng Nghymru; codi cyrhaeddiad addysgol; a sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cyflawni ei botensial llawn.

 

Cyflwynwyd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael mynediad at ddewis a chefnogaeth ehangach er mwyn goresgyn unrhyw rwystrau at eu dysgu i gyflawni eu potensial. Fel un o'r darnau cyntaf o ddeddfwriaeth a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd y Mesur yn garreg filltir yn ein hymrwymiad i ddatblygu system addysg ar gyfer Cymru oedd yn diwallu anghenion pobl ifanc Cymru.

 

Yn fy marn i mae’n dal yn rhy gynnar i werthuso effaith y Mesur yn llawn ac a yw pob un o'i amcanion yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, rwy’n falch bod y dystiolaeth a ddarparwyd i'r ymchwiliad wedi nodi bod cynnydd da eisoes wedi'i wneud. Ni fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr i ymgymryd â'u haddysg 14-19 o dan ddarpariaethau statudol y Mesur, yn cwblhau eu hastudiaethau tan haf 2013. Dim ond wedyn y gallwn ni ddechrau asesu effaith y Mesur ar gyrhaeddiad addysgol ac a yw’r dewis ehangach a'r cymorth a gynigir wedi helpu dysgwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg uwch neu gyflogaeth

 

Credaf fod cynnydd da eisoes wedi'i wneud. Sicrhawyd dewis ehangach ar gyfer yr holl ddysgwyr ar draws Cymru drwy ariannu grant 14-19 sylweddol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi adeiladu capasiti. Mae neilltuo ariannu grant i gefnogi ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar Lefel 2 a 3, yn enwedig y ddarpariaeth alwedigaethol, wedi sicrhau bod pob ysgol a choleg addysg bellach wedi gallu cwrdd â gofynion cwricwlwm lleol y Mesur. Rwy’n falch hefyd bod cynigion cwricwlwm lleol Cyfnod Allweddol 4 wedi bod yn gynigion gwirioneddol o ran nifer y dysgwyr sy’n cyfranogi.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad ariannol i barhau i gefnogi gweithrediad y Mesur hyd at 2013-14. Rwyf eisoes wedi hysbysu'r Rhwydweithiau Rhanbarthol o'r arian grant dangosol ar gyfer y cyfnod hwn. Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion adolygu'r cymorth sydd ei angen wrth fynd ymlaen a bydd eu hystyriaethau yn cael eu llywio gan ganlyniad yr Adolygiad Cymwysterau a'r adolygiad o'r System Gynllunio ac Ariannu.

 

Rwy’n croesawu cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor a’i argymhellion yn fawr. Mae yno lawer iawn o wybodaeth i’m swyddogion a minnau i’w hystyried; gan gynnwys pam fod cymaint o wrthdaro yn y dystiolaeth ynghylch pa mor dda y mae'r Mesur wedi cael ei weithredu a pha mor dda y mae’n gweithio.

 

Rwy’n falch o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor. Nid wyf wedi derbyn argymhelliad 7, mae pob ysgol yn darparu dogfen Llwybr Dysgu i’w dysgwyr sy'n cwrdd â gofynion Mesur Dysgu a Sgiliau Cymru. Fodd bynnag, rwy’n gwerthfawrogi bwriad y Pwyllgor wrth wneud yr argymhelliad a byddaf yn gofyn i’m swyddogion barhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau bod cydymffurfio yn parhau.

 

Mewn ymateb i argymhelliad 2, rwy’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod myfyrwyr a rhieni yn cael gwybodaeth gynhwysfawr am y cyrsiau a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael a byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i’r ffordd fwyaf priodol o sicrhau bod hyn yn digwydd. Rwy’n ymwybodol bod awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd, wedi rhoi arweiniad o ran darparu brosbectysau ardal leol ôl-16.

 

Mae nifer o'r argymhellion yn gofyn am adolygu neu werthuso meysydd penodol o ddarpariaeth 14-19. Mae fy swyddogion eisoes wedi bod yn trafod gydag Estyn ynghylch cynnal arolygiad thematig o’r swyddogaeth Anogwr Dysgu yn 2013-14 a’r posibilrwydd o gynnal adolygiad o ddysgwyr bregus a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach fel rhan o'u rhaglen arolygiadau yn y dyfodol.

 

Byddaf yn parhau i adolygu effeithiolrwydd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) wrth gefnogi ein dysgwyr i gyflawni eu gwir botensial ac i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn iddynt symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd yr adroddiad hwn, a'r dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad, yn darparu gwybodaeth hanfodol i'n cynorthwyo yn y broses honno, gan gynnwys parhau i herio'r sector addysg i wneud yn well a gwella cyfleoedd a rhagolygon ar gyfer ein pobl ifanc

 

Rwy’n parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael mynediad i gwricwlwm lleol eang a chytbwys, sy’n cyd-fynd â'u hanghenion, eu diddordebau a’u dyheadau, ond sydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gallu symud ymlaen i waith sgiliau uchel neu addysg uwch. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig er budd yr unigolyn ond i sicrhau bod Cymru’n wlad sydd â gweithlu cymwys i gystadlu mewn economi fyd-eang.

 

Rwyf wedi nodi isod fy ymateb i argymhellion unigol yr Adroddiad.

 


Nodir Ymatebion Manwl i argymhellion yr adroddiad isod:

Argymhelliad 1

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai‘r Gweinidog Addysg a Sgiliau adolygu‘r penderfyniad i bennu 30 cwrs (gan gynnwys pum cwrs galwedigaethol) yn isafswm y cyrsiau sydd eu hangen i lunio cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4

Fel rhan o‘i adolygiad, dylai‘r Gweinidog werthuso unrhyw ganlyniadau anfwriadol i gael dewis ehangach o gyrsiau; y cydbwysedd rhwng cyrsiau academaidd a chyrsiau galwedigaethol; a‘r effaith ar ysgolion llai ac ysgolion gwledig.

Ymateb : Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae’r polisi Llwybrau Dysgu 14-19 yn sicrhau bod ystod eang o gyrsiau yn cael eu darparu i bobl ifanc i’w caniatáu i ddilyn cyrsiau sydd o ddiddordeb iddynt ac sy’n eu symbylu, ac er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu ag addysg

Er nad ydym eto wedi gweld effaith lawn y polisi Llwybrau Dysgu rwy’n awyddus i holl bolisïau Llywodraeth Cymru gael eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod o fudd i ddysgwyr. Rwyf felly’n derbyn adolygiad o'r cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4 mewn perthynas â'r nifer isafswm o gyrsiau a gynigir.

Rwy’n parhau'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cynnig cwricwlwm lleol sy'n darparu mynediad at ystod eang o gyrsiau sy'n eu galluogi i ddilyn cyrsiau sy'n cwrdd â’u hanghenion a'u diddordebau unigol.

Goblygiadau Ariannol Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â'r ymgynghoriad yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli eisoes.

 

Argymhelliad 2

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau sy‘n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg lunio prosbectws ar y cyd sy‘n cynnwys cyngor diduedd ynghylch pob cwrs a chyfle hyfforddiant lleol i ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed (gan gynnwys ysgolion, colegau a lleoedd ar gyfer dysgu sy‘n seiliedig ar waith), i alluogi dysgwyr i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ar gael i‘w cynorthwyo gyda‘u dewisiadau pan fyddant yn 14 ac yn 16 oed.

Ymateb : Derbyn mewn Egwyddor

 

Rwy’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod myfyrwyr a rhieni yn cael gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â’r holl gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi lleol sydd ar gael a byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach ynghylch y ffordd fwyaf priodol o sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Byddaf yn adolygu'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n rheoli darparu gwybodaeth gan sefydliadau addysg bellach ac ysgolion o ran y cyrsiau y maent yn eu cynnig ac rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion ystyried dewisiadau ar gyfer cyhoeddi Cynigion Cwricwlwm Lleol Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 ar wefan Llywodraeth Cymru

 

Nid wyf wedi fy narbwyllo ei bod yn ddymunol cyhoeddi prosbectws ar y cyd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion, fodd bynnag, ystyried dewisiadau ar gyfer cyhoeddi Cynigion Cwricwlwm Lleol Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 ar wefan Llywodraeth Cymru. Yng Nghyfnod Allweddol 4 bydd yn sicrhau bod dysgwyr a'u rhieni/gwarcheidwaid yn ymwybodol o’r cwricwlwm lleol a gynigir gan eu hysgol ac yn gallu cymharu hynny gyda’r hyn a gynigir gan ysgolion eraill ar draws Cymru.

 

Yn yr hir dymor rwyf wedi gofyn i’m swyddogion drafod gyda Gyrfa Cymru Ar-Lein ddichonoldeb a gwerth am arian datblygu swyddogaeth i gefnogi cyhoeddi prosbectws electronig ardal gyffredin ar gyfer dysgwyr 16-19 oed ar draws Cymru. Byddai hyn yn caniatáu i ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant gyhoeddi prosbectws cyfun ac yn galluogi dysgwyr i chwilio am gyfleoedd cyrsiau mewn ardal benodol.

 

Felly nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i gyhoeddi canllaw pellach ar hyn o bryd.

 

Goblygiadau Ariannol – Byddai datblygu swyddogaeth prosbectws ôl-16 ar y cyd gyda Gyrfa Cymru Ar-Lein yn gofyn am fuddsoddiad pellach ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gwmpasu dichonoldeb a chostau'r datblygiad hwn gyda Gyrfa Cymru Ar-Lein.

 

 

Argymhelliad 3

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu i ba raddau y ceir mwy o deithio a defnydd o drafnidiaeth, sydd i‘w weld o ganlyniad i weithredu‘r Mesur, ac effaith hynny. Yn benodol, dylai‘r Adolygiad ymchwilio i‘r hyn a ganlyn, a‘i werthuso:

 

–   yr effaith y mae mwy o deithio wedi‘i chael ar ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed, yn benodol nifer y dysgwyr sy‘n teithio i safleoedd eraill yn rheolaidd a phellter cyfartalog, ac uchafswm pellter, y siwrneiau hynny;

 

–   effaith teithio a thrafnidiaeth ar ddysgwyr iau (rhwng 14 ac 16 oed);

 

–   i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn ceisio lleihau lefelau teithio dysgwyr;

 

cost teithio a thrafnidiaeth i awdurdodau lleol, ysgolion, a dysgwyr unigol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig;

 

–  yr effaith ariannol ar y Consortia, wrth i‘r grantiau 14-19 ddod i ben a‘r

    effaith ar gynlluniau trafnidiaeth;

 

–  faint o amser y mae dysgwyr ac athrawon/darlithwyr yn ei wario yn

    teithio, ac effaith mwy o deithio ar wersi eraill ac amser

    chwarae/amser cinio;

 

–  nifer y dysgwyr sy‘n amharod i deithio ac sydd, o ganlyniad, â llai o

    ddewis o ran cyrsiau;

 

–  effeithiolrwydd dysgu digidol fel ffordd o leihau‘r angen i deithio.

 

Ymateb : Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Gan foddarparu cludiant ysgol yn fater i'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, fodd bynnag, bydd angen comisiynu unrhyw adolygiad o effaithcynnydd mewn teithio a chludiant, sy’n deillio o'r Mesur, ar y cyd rhwng yr Adran Addysg a Sgiliau a'r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau. Credaf fodyno ddwy elfen allweddol i'r adolygiad hwn, sef yn gyntaf, yr effaith ar ddysgwyr yng NghyfnodAllweddol 4 a dysgwyr 16-18, ac yn ail yr effaith logistaidd a gweithredol ar awdurdodau lleol a darparwyr cludiant yn dilyn gorfod rhoi’r trefniadau angenrheidiol ar waith i gludo dysgwyr er mwyn iddynt gael mynediad at eu dewis ehangach

 

Felly mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau a minnau wedi gofyn i’n swyddogion edrych ar sut y gellir symud yr adolygiad yn ei flaen ar y cyd. Rwy’n bwriadu i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod 2012-13, gan adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Mawrth 2013. Bydd y canfyddiadau wedyn yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanfyddiadau'r adolygiad i ofynion cwricwlwm lleolCyfnod Allweddol4, rhywbeth yr oedd y Pwyllgor hefyd wedi ei argymell, ac sydd wedi ei dderbyn gennyf. Bydd angen i’r adolygiad hefyd ystyried y cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithredu rhwngawdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

 

Goblygiadau Ariannol – Bydd bwrw ymlaen ag adolygiad sy'n cwmpasu  agweddau addysgol a chludiant yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn golygu comisiynu ymgynghorydd ymchwil. Bydd costau gwneud hynny o gwmpas £20-30k – gellir talu am hyn trwy ddefnyddio ariannu presennol rhaglen.

 

 

 

 

 

Argymhelliad 4

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai‘r Gweinidog Addysg a Sgiliau, ar y cyd â‘r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sicrhau bod ysgolion yn cael eu hystyried yn sefydliadau sector cyhoeddus â blaenoriaeth, er mwyn iddynt gael budd o‘r broses o gyflwyno prosiect band

eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru.

 

Ymateb : Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n cefnogi'r egwyddor y dylai pob ysgol yng Nghymru gael mynediad at y genhedlaeth nesaf o wasanaethau cysylltedd.

 

Tra bydd prosiect band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru yn sicrhau cydraddoldeb seilwaith ar draws Cymru gyfan, mae cyflenwi cysylltedd band eang i safleoedd sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, yn cael ei gyflawni trwy broses o gyflwyno'r Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).

 

Bydd y rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn cael eu cysylltu â'r rhwydwaith PSBA erbyn diwedd y flwyddyn hon ar sail y gofynion a ddarparwyd i’r PSBA gan Awdurdodau Unedol, sy’n gyfrifol am gaffael a rheoli cysylltedd ysgolion.

 

Mae’r PSBA wedi'i strwythuro i addasu'n gyflym i newidiadau yn y farchnad a bydd yn manteisio ar gyflwyno Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yng Nghymru er mwyn darparu’r lled band priodol am y gwerth gorau.

 

Goblygiadau Ariannol

 

Dim, mae’r gyllideb ar gyfer cysylltedd ysgolion wedi’i datganoli i Awdurdodau Unedol.

 

 

Argymhelliad 5

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid allweddol eraill, fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo gweithredu cadarnhaol i fynd i‘r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

 

Ymateb : Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i hyrwyddo gweithredu cadarnhaol i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a bydd yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wneud hynny.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi prosiectau penodol sy'n anelu at fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw. Er enghraifft, bwriad prosiect 'Bwrw ymlaen â Gwyddoniaeth', sy'n cael ei harwain gan ContinYou Cymru a Chwarae Teg, yw annog ymgysylltiad ehangach â STEM, yn enwedig ar gyfer merched, a hyrwyddo cynnydd yn nifer y merched sy’n dilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth.

 

Mae fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr dysgu, ar gyfer y garfan 11-19 oed, archwilio goblygiadau stereoteipio mewn cyflogaeth a hyfforddiant, gan gydnabod manteision agwedd gadarnhaol tuag at wahaniaeth ac amrywiaeth. Mae darparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd, gan ymgynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig, yn parhau i helpu herio rhagdybiaethau sy’n creu stereoteipiau ar sail rhyw ynglŷn â llwybrau gyrfa.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim.

 

 

Argymhelliad 6

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, gomisiynu adolygiad o wasanaethau cymorth i ddysgwyr a gofal bugeiliol, gan gynnwys gwerthuso cysondeb y modd y darperir anogwyr dysgu ac eglurhad ynghylch rôl y rhai sy‘n darparu gwasanaethau cymorth dysgu.

 

Ymateb : Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae fy swyddogion mewn trafodaethau gydag Estyn ynghylch cynnal adolygiad thematig o anogwyr dysgu fel rhan o raglen arolygu Estyn ar gyfer 2013-14.

 

Mae darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaethyn faeso bryder a rennir ac rwyf wedi gweld tystiolaeth anghyson o ran ansawdd a maint y gefnogaeth a ddarperir i ddysgwyr 14-19 oed ar draws Cymru. Rwy’n barod i weithredu lle ceir tystiolaeth bod ysgolion a cholegau yn methu cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) ac yn benodol yn methu darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad mewn modd diduedd er lles y dysgwr.

 

O ran eglurder ynglŷn â’r rolau, mae hyn yn cael ei ddarparu o fewn y Canllawiau ar y Gwasanaethau Cymorth Dysgwyr a’r Ddogfen Llwybr Dysgu", a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2011 (Rhif dogfen canllaw: 047/2011). Fodd bynnag, pe bai arolygiad thematig Estyn yn nodi unrhyw angen am ganllawiau ychwanegol, byddwn yn rhoi ystyriaeth i gryfhau'r canllawiau presennol. Mae'n bwysig iawn bod y rhai sy'n cyflenwi gwasanaethau cymorth dysgwyr yn cydnabod y priod swyddogaethau rhwng anogwyr dysgu, cymorth personol a chyngor ac arweiniad gyrfaoedd a ble a phryd i gyfeirio dysgwyr at wasanaethau eraill.

 

Mae gofal bugeiliol hefyd yn elfen bwysig o addysg y person ifanc a byddaf yn adolygu pa ganllawiau pellach posib sydd eu hangen er mwyn cefnogi hyn ar sail adroddiadau Estyn ar gyflenwi gofal bugeiliol ar draws Cymru

 

Yn ddiweddar rwyf wedi sefydlu is-adran newydd o fewn fy adran, sy'n canolbwyntio ar ymgysylltiad pobl ifanc a chyflogaeth. Bydd eu ffocws ar ddatblygu prosesau clir a systemau broceriaeth ar gyfer cyfeirio pobl ifanc at y gwasanaeth cymorth cywir ar yr adeg iawn. Rwy'n disgwyl gweld mwy o drefniadau cydlynol yn cael eu rhoi ar waith i ddarparu lefelau uwch o gymorth personol i’r bobl ifanc hynny sydd ag anghenion ychwanegolneu gymhleth. Bydd canllawiau arwasanaethau cymorth ieuenctid, i'w cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn rhoi eglurder ynghylch disgwyliadauLlywodraeth Cymru.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag arolygiad thematig gan Estyn o wasanaethau cymorth i ddysgwyr. Mae'n bosibl y bydd goblygiadau yn y dyfodol yn deillio o ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad o'r fath ond bydd y rhain yn dod o gyllidebau rhaglenni sy'n bodoli eisoes. Bydd unrhyw ganllawiau ychwanegol a gyhoeddir o ganlyniad i’r adolygiad yn cael eu cyhoeddi ar ffurf electronig felly ni fydd unrhyw gostau cyhoeddi ychwanegol.

 

 

Argymhelliad 7

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru werthuso ac, os oes angen, gyflymu‘r broses o weithredu a defnyddio Cynlluniau Llwybrau Dysgu i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a‘u rhoi ar waith mewn modd cyson ym mhob ysgol a gynhelir.

 

Ymateb : Gwrthod

 

Rwy’n gwrthod yr argymhelliad hwn. Mae pob ysgol a choleg yng Nghymru wedi nodi yn eu hymateb i Lywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi Dogfen Llwybr Dysgu i’w holl ddysgwyr 14-19 oed sy'n cwrdd â lleiafswm gofynion Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru); sef bod dysgwyr yn derbyn dogfen sy'n rhoi manylion am y cyrsiau astudio y mae ganddynt hawl i'w dilyn ac unrhyw gymorth dysgwyr a ddarperir ar eu cyfer.

 

Ni fu’n fwriad erioed gan Lywodraeth Cymru i ddyblygu'rhyn oeddeisoes ar waith, ond yn hytrach sicrhau bod pob dysgwr yn cael eu cofnod eu hunain yn dogfennu'r cyrsiau y byddant yn eu dilyn a'r cymorth dysgwyr y gallant ddisgwyl ei dderbyn. Felly mae ysgolion a cholegau wedi ymgorffori gofynion y Mesur yn eu cofnodion dysgwyr presennol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiadDogfen Llwybr Dysgu estynedig Ar-Lein ar safle Gyrfa Cymru Ar-Lein ar gyfer yr ysgolion, colegau a dysgwyr hynny sy'n dymuno ei defnyddio. Gall dysgwyr ddefnyddio'r ddogfen honi gofnodi eudysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol yn eu hysgol, coleg neugymuned ehangach. Gallant hefyd ei ddefnyddio i gofnodi eu nodau a’u dyheadau gyrfa ac i adnabod unrhyw fylchau yn eu profiadau o sgiliau a sut maent yn bwriadu cyflawni hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo argaeledd y fersiwn Ar-Lein yma i ysgolion a cholegau ac amlygir y ffaith ei fod ar gaelyng nghanllawiau dogfen Llwybrau Dysgu Llywodraeth Cymru(047/2011). Mae'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf oddi wrth Gyrfa Cymru Ar-Lein yn dangos ar hyn o brydbod dros 32,000o ddysgwyr 14-19 yn defnyddio'r ddogfen Ar-Lein. Mae hyn yn golygu bod tua 25% o ddysgwyr yng Nghymru yn defnyddio'r fersiwn electronig Ar-Lein.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Mae'r Ddogfen Llwybrau Dysgu electronig wedi'i cael ei datblygu'n llawn ac nid oes unrhyw ddatblygiadau pellach yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

 

 

Argymhelliad 8

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru werthuso effaith Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 ar ddysgwyr bregus, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a dysgwyr bregus mewn colegau addysg bellach.

 

Ymateb : Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn, ond eto credaf y byddai’n well gohirio unrhyw werthusiad tan 2014-15, pan fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr, a fydd wedi cwblhau eu llwybrau dysgu o dan y Mesur, wedi cwblhau eu cyfnod addysg 14-19. Bydd hyn yn rhoi darlun mwy cywir i ni o effaith y Mesur ar ddysgwyr bregus mewn ysgolion prif ffrwd a ​​sefydliadau addysg bellach. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion drafod y posibilrwydd gynnal adolygiad thematig gan Estyn fel rhan o'u cylch arolygu yn 2014-15.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag arolygiad thematig gan Estyn o ddysgwyr bregus, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr bregus mewn colegau addysg bellach. Efallai y bydd goblygiadau yn y dyfodol, fodd bynnag, yn deillio o ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad o'r fath ond bydd y rhain yn dod o gyllidebau rhaglenni sy'n bodoli eisoes.

 

 

Argymhelliad 9

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru lunio rhestr o weithrediadau allweddol y gall eu rhoi ar waith yn gyflym i sicrhau bod cyflogwyr yn chwarae rhan fwy cyson ac effeithiol yn y gwaith o gynllunio a gweithredu darpariaeth 14-19. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd lunio rhestr o‘r gweithrediadau allweddol a fydd yn sicrhau ei bod yn haws i‘r rhwydweithiau 14-19 gael gafael ar wybodaeth gywir a chyfoes am y farchnad lafur.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Rwyf wedi derbyn hyn mewn egwyddor yn unig oherwydd rwyf o’r farn fy mod eisoes wedi rhoi ystod o gamau gweithredu ar waith a fydd yn sicrhau ymgysylltiad mwy effeithiol gan gyflogwyr wrth gynllunio a chyflenwi darpariaeth 14-19.

 

Mae canllawiau Llwybrau Dysgu 14-19 Llywodraeth Cymru eisoes yn nodi ei disgwyliad y dylai'r rhwydweithiau 14-19 gynnwys cynrychiolaeth naill ai o gyflogwyr neu ddarparwyr hyfforddiant yn y gwaith. Mae ffyrdd eraill o ymgysylltu â chyflogwyr yn cynnwys Bwrdd  Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, digwyddiadau Y Sgwrs Go Iawn, sy'n dod â phobl ifanc a chyflogwyr at ei gilydd, a’r Adolygiad Cymwysterau 14-19.

 

Mae cymwysterau yn elfen allweddol o ddarpariaeth 14 i 19 ac fel rhan o'r Adolygiad o Gymwysterau 14 i 19, mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n helaeth â chyflogwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill

 

Caiff cyflogwyr eu cynrychioli ar Fwrdd Prosiect yr Adolygiad ac mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau wedi mynegi, ar sawl achlysur, pa mor bwysig yw cael system gymwysterau sy'n paratoi ein pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth yn ogystal ag ar gyfer addysg bellach a/neu addysg uwch.

 

Mae ymgynghoriad yr Adolygiad yn gwahodd sylwadau ar sut ac i ba raddau y dylai cyflogwyr fod yn rhan o ddatblygu neu sicrhau ansawdd cymwysterau. Mae hefyd yn gwahodd sylwadau ar sut y gellir gwella'r sylfaen dystiolaeth ar gyrchfannau ar ôl ennill cymwysterau er budd dysgwyr, darparwyr a llunwyr polisi. Mae hefyd yn gofyn sut y gellir gwella neu wneud yn fwy hygyrch, y cyngor a’r arweiniad a roddir i ddysgwyr sy’n gwneud penderfyniadau am gymwysterau.

 

Mae Prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gennyf y llynedd, yn ymrwymedig i wella’r Wybodaeth am y sylfaen Marchnad Lafur sydd ar gael i unigolion, cyflogwyr, darparwyr, llunwyr polisi ac eraill yng Nghymru. Mae'r prosiect yn cefnogi cyflenwi Gwybodaeth am y Farchnad Lafur gyda golwg ar ddarpariaeth 14-19 trwy:

 

·         Gwella cyfathrebu a pherthnasedd canfyddedig Gwybodaeth am y Farchnad Lafur o ffynonellau data cadarn i unigolion sy’n gwneud dewisiadau dysgu;

 

·         Sefydlu dealltwriaeth a dadansoddiad sylfaenol eglur o sut y mae Gwybodaeth am y Farchnad Lafur yn cael ei defnyddio ar draws y gwasanaethau gyrfaoedd ehangach yng Nghymru; a

 

·         Sicrhau cyfathrebu ehangach gyda chynulleidfaoedd allweddol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r farchnad lafur yng Nghymru, gan wneud negeseuon yn ddealladwy ac apelgar.

 

Fy nod ar gyfer y prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur yw sicrhau bod llunwyr polisi yn dod yn gwbl ymwybodol o'r data pan fyddant yn cynllunio eu Cwricwla Lleol er mwyn i ni allu sicrhau bod pobl ifanc yn dilyn cyrsiau fydd yn arwain at gyflogaeth yn y dyfodol.


Goblygiadau Ariannol –  Dim. Gweithio o fewn y Prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur a bydd costau Adolygiad Cymwysterau 14 i 19 yn dod o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 10

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu effaith gweithredu‘r Mesur ar addysg Gymraeg a dwyieithog, gan gynnwys ysgolion dwy ffrwd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae gwerthusiad o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg eisoes wedi cael ei gomisiynu. Bydd y gwerthusiad hwn, a fydd yn cychwyn yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys elfen benodol i adolygu effaith y Mesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion ffrwd ddwyieithog a ffrwd ddeuol ac yn ystyried arian grant galwedigaethol cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Llwybrau Dysgu 14-19 wedi'i neilltuo a ddyrannwyd i rwydweithiau er mwyn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i gynyddu dewisiadau cwrs.

 

Goblygiadau Ariannol Dim. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r argymhelliad hwn gan fod cyllideb eisoes wedi’i dyrannu ar gyfer gwerthuso’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'n bosib, fodd bynnag, y bydd goblygiadau’n deillio o ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad o'r fath yn y dyfodol ond bydd y rhain yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli eisoes.